Tudalen:Gwaith Alun.pdf/16

Gwirwyd y dudalen hon

Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—addefent,
Am ddifa'r Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith—
I fyny safai'r fwyn-iaith.

Heddyw gwelaf na faidd gelyn—er gwŷn,
Roi gair yn ei herbyn;
A dolef gref sy'n dilyn,
"A lwyddo Duw, ni ludd dyn."

Cur llawer fu Caerlleon,—y gw'radwydd
Sy'n gwrido hanesion;
Am groesi'r Clawdd hir i hon,
Brethid calonnau Brython.

'Nawr Cymry gant wisgant wên,
Chwarddu gânt a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chân,
O fewn Caer heb ofn y cwn.

Byw undeb, gyda bendith,—a daenir
O'ch doniawl athrylith
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.

DAU ENGLYN

Ar Briodas Mr. P. Williams â Miss Whitley, Broncoed.

 an Naf eiddunaf i'r ddau—bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw'n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu dyddiau.

Eirchion y gwaelion heb gelu,—pur rad
Parhaus fo'n defnynnu
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn' ddel—medd Ioan Ddu.
Tach., 1812