Tudalen:Gwaith Alun.pdf/87

Gwirwyd y dudalen hon

Pob disgwyliad gwych yn agor,
Hithau'n ddedwydd yn ei rhan,
Cadd ei galw ar ei helor,—
Y swyn a dorrwyd yn y fan.

Treigliad ei golygon llachar,
Ei throediad ysgafn ar y ddol,
Corff ac enaid oll yn hawddgar,
Dynnai'r galar ar ei hol;
Ond mae tryliw rhos a lili,
Wedi gwelwi ar ei gwedd,
'N awr ni ddena serch cwmpeini
Mwy na phryfed mân y bedd.

Ffarwel iddi! boed i'r ywen
Gadw llysiau'i bedd yn llon,
A gorwedded y dywarchen
Werdd, yn ysgafn ar ei bron
Sycher dagrau ei rhieni,—
Ior y Nef i'w harwain hwy,
Nes y cwrddant ryw foreuddydd,
Na raid iddynt 'mado mwy.

CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF Seisnig

Ty llong gadd lan, lle'r oedd fy nghais,—
O'r tonnau treiddiais trwy;
Er dryllio'm hwyl gan lawer gwynt,
Na chlywir monynt mwy.

O gernau'r 'storm ces ddod yn rhydd,
Daeth angau'n llywydd llon,
A pharodd im' mewn gobaith glân,
Angori'n 'r hafan hon.