Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/11

Gwirwyd y dudalen hon

go smart, a gwyntoedd cryfion, nes imi bron golli fy anadl ar yr rhywiau, ond tybiais fy nwyn i fynu i'r bryn wrth y ddwy gadwyn ganlynol,— "A Gwr a fydd yn ymguddfa," &c., a "Tyred, fy mhobl, llecha," &c. Bu yn dawel a gwresog dros dro.

Cefais dreial arall mewn perthynas i ddwyn amser yn eglwys Dduw, gan benderfynu fy nghrefydd o'r dechreu ar gam ddibenion, a meddwl rhoi i fyny. Fe a'm codwyd fel hyn— "Am fod ini Archoffeiriad mawr," &c. Ond yn bresenol pur gymylog ac amheuus am fy mater, a churo ar fy meddwl pa un a ddechreuwyd gwir waith arnaf ai na ddo. Ond yn wyneb pob peth, hyn a ddywedaf—"Pe lladdai efe fi," &c. Cawsom freintiau gwerthfawr iawn y dyddiau a basiodd, yr ordeinhad ddwy waith, ag arogl esmwyth ar doriad y bara.

Garedig frawd, bu dda genif glywed y pwynt ynghylch fod amgylchiadau eglwys Dduw yn cael eu hamlygu i broffeswyr, am fy mod yn meddwl nad yw hynny ddim yn beth hollol ddieithr i minau yn y dyddiau terfysglyd hyn nithio ar Seion. Mae rhwymau neillduol ar bob Cristion deffrous yn y matter i alaru wrth weled cerig y cysegr yn mhen pob heol—megis puteinio, lladradta, a'r cyfryw. Dymunaf arnoch chwithau gymeryd priodasferch yr Oen at Orsedd gras. Ocheneidiwch lawer am ei hadferiad hi. Cymhellwch hi ar ei Phriod, oblegid ni wrthud Duw eu bobl, yr rhai a adnabu efe o'r blaen, am fod y Cyfamod yn gyfamod trwy lw, er mai puttain yw hi. Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl yn neillduol, un a grybwyllwyd uchod, a'r llall fel hyn,—"Y