OS Ionawr a roes inni—yn Meirion
Un mawr i'w gofnodi,
Ei loew ddawn ni welodd hi,
Na Ionawr na phenwyni.
Newydd oedd, ni wywodd hi,—ni wywai
E'n ei swydd ati,
Daliai 'i nerth, odlai i ni
Yn ei henaint yn heini.
Dilwgr ydoedd pob dalen—a lwybrodd
Ei oleubryd awen;
Esgyn i fysg cân nef wen
Yr ydoedd ar ei haden.
Ei ddihalog feddyliau—a nofient
Mewn nefol syniadau;
Tân ei gerdd, at destun gau,
Ni roe Ionawr aurenau.
Ei daran ef drwy y nen—sy eglur,
Sigla y ffurfafen;