Ceir yno deimlo'r gwyn darth,
Sydd heibiaw'n nofiaw mewn nerth;
Chwalu bydd, drwy'r uchel barth,
Uwch creigiau, uwch cymau certh.
Rhai ereill oedd am forwrio—o Loegr,
I'w hen wlad i rodio;
Yr oeddynt, drwyddynt, am dro—ar frig tonn,
Yn llawn o galon, hawdd gallwn goelio.
Cysuron hen gofion gynt,
Yn ddiau, 'n mlaen a ddeuynt.
Oeddynt yn ymawyddu—am weled
Moelydd hawddgar Cymru;
Gweld rhiant, gweld ceraint cu,
A gwyneb pawb yn gwenu.
Cofio'r gwyn ddyffryn a'r ddôl,
Y llennyrch heirdd meillionol,
Y fron wech, y glasfryn hardd,
Lle tyf blodau, fathau fyrdd;
Y doreithiog, enwog ardd
Lad ei gwawr, y deildy gwyrdd.
A'r diddan le roed iddynt,
Ochrawg wedd, i chware gynt,
Yn rhyddion, cyn cyrhaeddyd
Tan bwys helyntion y byd;
Oeddynt yn cofio addysg
Tad a mam dinam, a'u dysg;
A hallt alar yr holl deulu—y dydd
Y deddynt o Gymru,
A'r trymion ofidion fu,
Trwy'u henaid, yn trywanu.