Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/109

Gwirwyd y dudalen hon

Pe bai etifedd i ŵr mawr
Yfory'n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
"Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
Yfory'n mynd i'w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi,
"Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bawn i fory'n mynd i'r bedd,
A'm calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
"Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo'i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
Meddai clychau Aberdyfi.
"Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn"
Meddai clychau Aberdyfi.

XV

'R wyf wedi canu llawer
O gerddi Cymru lân,
Ond dyma'r darn prydferthaf
Sydd gennyf yn fy nghân;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
A modrwy am ei bŷs.