Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/96

Gwirwyd y dudalen hon

Ar rai o fydrau Cymru lân,
Rhyw gais at roi arluniau mân
O fywyd Alun ydyw'r gân
Fugeiliol sydd yn canlyn;
Ac mae bywgraffiad byw o'r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A'i "Arad Goch" yw'r gyntaf un
Gaiff fyned efo'r delyn.

III

Os hoffech wybod sut
Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
Ar wyneb anial dir.
'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
Ac yn codi efo'r wawr,
I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg,
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,
Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
I fryniau ucha'r wlad.
'Rwyn gorwedd efo'r hwyr, &c.