Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/106

Gwirwyd y dudalen hon

Rho dwf, rho gynhwf gwanwyn
A chynnull dy wull i dwyn;
Tywynna'n falch ar galch gaer,
Yo hylawn, yn oleuglaer;
Dod yno'n dy fro dy frisg,
Yn wyran bawr, yn irwisg;
Ysgwyd lwyth o ber ffrwythydd,
Yn rhad gwrs, ar hyd ei gwŷdd;
Rho'th gnwd, fel ffrwd, ar bob ffrith,
A'r gweunydd, a'r tir gwenith;
Gwisg berllan, gwinllan, a gardd,
A'th lawnder a'th ffrwythlondardd;
Gwasgar hyd ei daear deg
Gu nodau dy gain adeg.

Ac yng nghyfnod dy flodau,
A'r miwail frig tewddail tau,
Casglaf y rhos o'r closydd,
Gwull dolau, a gemau gwŷdd;
Hoew feillion, dillynion llawr,
A glwysbert fflur y glasbawr,—
I'w rhoi'n gof aur-enwog ior,
Ufudd wyf, ar fedd Ifor.


MARWYSGAFN Y BARDD.

UN O ENGLYNION EI GLAF WELY.
OFNI gwrthuni gwrthwyneb—yr wyf
Ofni'r awr i ateb;
Ofni hir drin ffolineb,
Ofni 'Nuw yn fwy na neb.