Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/29

Gwirwyd y dudalen hon
DIOLCH AM FENYG.

IFOR ydoedd afradaur,—
O'i lys nid ai bys heb aur.

Doe'r oeddwn, gwn, ar giniaw,
I'w lys yn cael gwin o'i law.
Mi a dyngaf â'm tafawd,
Ffordd y trydd gwehydd gwawd,
Goreu gwraig hyd Gaer Geri,
A goreu gŵr yw d' wr di ;
Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaeliodd.

Y dydd y daethum o'i dai,
A'i fenyg dwbl o fwnai,
Benthyg ei fenyg i'w fardd
A roi Ifor oreufardd,—
Menyg gwynion tewion teg,
A mwnai ym mhob maneg;
Aur yn y naill, diaill dau,
Arwydd yw i'r llaw orau ;
Ac ariant, moliant miloedd,
O fewn y llall, f'ennill oedd.

Merched a fydd yn erchi
Benthyg fy menyg i mi;
Ni roddaf, dygaf yn deg
Rodd Ifor, rwydd ei ofeg.
Ni wisgaf faneg nigys
O groen mollt, i grino 'mys;
Gwisgaf, ni fynnaf ei far,
Hyddgen y gŵr gwahoddgar;
Menyg gwyl am fy nwylaw,
Ni bydd mynych y gwlych gwlaw.