Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/65

Gwirwyd y dudalen hon
GOFYN AC ATEB.

Y BARDD YN GOFYN TAL FORFUDD AM HIR GARU;
HITHAU YN EDLIW EI LYFRDRA.

Y WAWR dlos-ferch ry dlys-fain,
Wrym ael, a wisg aur a main,
Ystyr, eigr, ystôr awgrym,
Is dail îr,—a oes dâl im?
Ymliw glân o amlwg lais,
Em o bryd, am a brydais
I'th loew-liw, iaith oleu-lawn,
A'th lun gwych, wyth-liw y gwawn?

"Hir i'th faddeuaf, Dafydd.
Hurtiwyd serch, hort iti sydd
O'th fod, rhyw gydnabod rhus,
Yn rhylwfr, enw rheolus.
Os llwfr ceiliagwydd, was llwyd,
Llwfr, 'sywaeth, odiaeth ydwyd;
Ni'm caiff innau, diau naf,
Dyn dirym, ond y dewraf."

Cwfl manwallt, cyfliw man-wawn,
Cam a wnai, ddyn gymen iawn.
Cyd bwyf was cyweithas coeth,
Llwfr yn nhrin, llwfr yn nhrannoeth,
Nid gwas, lle bo gwyrddlas gwŷdd,
Llwfr wyf ar waith llyfr Ofydd.
A hefyd, y ddyn hoew-fain,
Ystyria gu ystori gain,—
Neitio cur, pad da caru
Gwas dewr fyth, gwst oer fu,
Rhag bod, nid cydnabod cain,
Rhyfelwr yn rhy filain.