Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/83

Gwirwyd y dudalen hon
CYNGOR Y BRAWD LLWYD.

DOE ym mherigl y ciglef,
Yng nglyn aur, angel o'r nef,
Wrth ganu araith gynnes,
O'i fin gwell na gwin a ges.
Parod frawd llwyd, ym mhob lle,
O'i gyngor doeth rhag ange,
Disgybl Mair am dysgawdd,—
A hyn a ddywaid yn hawdd,—
"Dafydd o beth difeddw bwyll,
Digymar gerdd digymwyll,
Dod ar awen d' aur enau
Nawdd Duw, ac na ddywed au;
Nid oes o goed tri-oed trwch
Na dail ond anwadalwch,—
Paid a bod gan rianedd,
Cais er Mair cashau'r medd;
Ymogel draws magl draserch,
A 'mogel mwy magl merch;
Gochel dafarn, difarn dôn,
A gochel y merched gwychion;
Ni thai ffaën gwyrdd gwŷdd,
Na thafarn, na iaith ofydd.
Tri pheth a bair methu
I'r dyn a'u dilyn o'i dy,—
Gwin, merch drwch, a gwychder,
Myn fenaid gwiw, afraid gêr."

Atebais, pan gefais gwr
Ar hyn o eiriau'r henwr,—
"Pa fodd, gwel, y gochela
Magl serch yr ordderch dda,
A minnau, y gŵr mwyniaeth,
Ynddi yn gwaeddi yn gaeth?