Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/92

Gwirwyd y dudalen hon
Y CYWYDD DIWEDDAF I
FORFUDD.

PRYDYDD i Forfudd wyf fi,
Prid ei swydd, prydais iddi
Cywyddau twf cu wiw-ddoeth,
Cof hardd am dwf caeth-fardd coeth;
Ni bu ag hwynt, pwynt ympel,
Un organ mor anirgel,
Mae dy serch, unfam undad,
mron yn dwyn fy mrad,
Holl gwmpas, y lleidr-was llwyd,
O'r hyn oll yr enillwyd.

Rhoes iddi bob rhyw swyddau,
Rhugl foliant o'r meddiant mau,
Gwrdd-lef telyn ag orloes,
Gormod rhodd, gwr meddw a'u rhoes.
Heuais, fal orhoian,
Ei chlod yng Ngwynedd achlân;
Hydwf y mae yn hedeg,
Had tew, llyna heuad teg.

Pybyr fu pawb ar fy ol,
A'u “Pwy oedd ?" ym mhob heol;
Pater-noster anistaw,
Pawb ar a gânt, llorfdant llaw;
Ymhob crefydd rhyfedd ri
Yw ei cherdd, yn wych erddi;
Tafawd o'm twfawd ganmawl,
Teg ei gwên, amen y mawl,—
Cans ar ddiwedd pob gweddi,
Cof cywir, yr henwir hi.
Chwaer ydyw, tywyn-liw tes,
I ferch Wgan, farchoges;