Tudalen:Gwaith Dewi Wyn.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwiw eu hurddedig gyrhaeddiadau:
Deall p'le y nadir, dull planedau;
Am sêr gwibiedig mwys ragwybodau;
Lled ragwelediad o'r holl dreigliadau.

Trwy ddeall llachar treiddiai Llechau
Drwy fro anian a'i dirfawr rinau;
Iddo ymrithiodd amrywiaethau
Meirw a bywion amryw bauau,
A phraw' didwyll amgyffrediadau
I'w law fanwl,—teimlo 'r elfennau,
Gwalchmai, Rhiwallon, hyfedr ddoniau
Twymn y trwythent mewn naturiaethau.

A chlau wybodau i'w ben—o leiniawg
Olwynion yr wybren,
Gwyn ab Nudd gwynebai nen,
A'i fyfyr drwy'r ffurfafen.

Hen Idris a fu 'n edrych—ar wyneb
Serenawg yr entrych;
Deallai drefn, dull, a drych,
Y lluon glân eu llewych.

Arwyddion lladmeryddiaeth—adwaenid
Gan eu doniau helaeth;
Eu dawn uwch ben i nen aeth,
Doniau goruwch dewiniaeth.

Yr Athrawon.

Gosod deddfau, cyfreithiau i Frython,
Yn wiw wrth reol a wnai 'r athrawon;
Ar goedd eu brenhinoedd barnu 'n union,
Gynt mor enwog oeddynt yn Mryn Gwyddon;
Ar orsedd oleuwedd lon—areithio:
Ow in' droi heibio un o'u diarhebion.