Tudalen:Gwaith Dewi Wyn.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tlodi plant.
Rhosynau blodau o blant—yn edrych
Yn odrist, ar ddiflant;
Eu rhinweddau, gorau, gant,
A hwy'n ieuainc, hen wywant.

Gwel lwyd-foch ag ol adfyd;—ac arwydd
Mai curio mae'r ysbryd;
Gwanychu, dygngnoi iechyd;
A dwyn gwedd y dyn i gyd.

Prinder a phob rhyw wendid,—a'u malant
Rhwng ymylau gofid;
Gorthrymder, llymder, a llid,
Ac anhunedd cynhenid.

Cydymdeimlad Elusen.
Hwy wyneblwydant yn eu blodau:
Gnawd i'r anwydog wneyd oernadau;
Gwel Elusen, ac a glyw leisiau,
Eu hoch'neidion a'u tuchaniadau:
Er achub ei gwrth'rychau,—goebrwydd
Y gyrr ei dedwydd, anwyl gardodau.
Arddengys ei bys bob eisiau;—estyn
Ei llaw, i'r adyn, ei holl wir reidiau.

Ei threfniadau, wrth reolau;
Yn ei cheisiau, iawn achosion:
Cyfraniadau, wrth fesurau,
O'i delidau, i dylodion.

Sefydliadau Elusen.
Saif hyd wledydd ei hen sefydliadau;
Manteision di brinion, hyd wybrenau:
Ac nid yw pob gwiwras Gymdeithasau,
O'r Fam a'r Fanon hon ond canghennau:
Golygir y prif golegau—mal hen
Erddi Elusen o iraidd lysiau. Elusengarwch.