Y rhai yn awr a heuant—eu maesydd,
Dim eisiau ni welant;
Os i'r bedd, ar ddiwedd ânt,
I fedi adgyfodant;
Myned i fyd y mwyniant,
Y' myd y nef medi wnant.
Ond garw, Ow! mor welw awr marwolaeth,
Ydyw y sennwr diwasanaeth,
A roes ei ariant ar usuriaeth;
A gado'r tlawd i gydiaeth—mewn trychni,
A dir galedi ei dreigladaeth.
Yn ei liain main, mynnai
Fyw'n foethwych, dan fynych fai:
Llidiodd wrth bob llwydaidd ddyn,
Yn ei ddrysau'n ddi resyn;
I ddwyn dim oedd yn ei dai,
Ni thyciai gair na thocyn:
Rhoi i'w gwn, ar ei giniaw;
Ond dal y trist ddyn tlawd draw.
Ymhyllai, dwrdiai bob dydd,
Cernodiai eu cornwydydd;
Dydd y farn gadarn, ar goedd;
Eithradwy y gweithredoedd;
Duw a rydd ei dir a'i waith,
A'i hen eiddo yn oddaith;
A bydd yr hen gybydd gau,
Yn eu canol yn cynnau;
Ei dda, am fyth, i ddim fydd,
Ond i'w enaid yn danwydd.
Nis gwnaed gwisg i'w enaid gau,
Na 'i gorff llwm, ond gwaew'r fflamau.