GRUFFYDD.
Ni gerddwn dan chwiban at Ned[1] o'r dre' druan,
Cawn hwn wrtho'i hunan mewn caban main cul;
Mae'i gwrw fo o'r goreu, i'w gael yn y gwyliau,
Gwnawn dyllau'n o foreu yn ei faril.
MEURIG.
Mi welais ryw eilyn ar fwrdd yr oferddyn,
A Ned wrth ei bicyn yn llibyn a llwyd :
Pab Rhufain, pe profai (er maint ei rym ynteu),
A grynai, gwn inneu, gan annwyd.
GRUFFYDD.
Er niwl ac anialwch, a thrawster a thristwch,
Daw dyddiau dedwyddwch hyfrydwch i'r fro:
Daw Anna[2] i dywynnu cyn nemawr, cân imi,
Di weli blwy' Dewi'n blodeuo.
MEURIG.
Er mynych ddymuned o'r galon ei gweled,
Mor luniaidd, mor laned, a haeled yw hon;
Mae'm march yn din-deneu, a'r llif dros y dolau,
Yn chwarae pentanau Pont Einon.
GRUFFYDD.
Rhyw faich o afiechyd sy gâr i seguryd,
A hunan brydnhawn-fwyd yw bywyd y balch ;
Rhesymau mwyn hyfryd o'r galon yw golud,
A'r iechyd i'r ynfyd a'r anfalch.