MEURIG.
Y Phenics hoff anian, aur eglur rywioglan,
Ni thynn Feurig allan, O druan, o'i dre';
A'r manna, pe'i rhennid, yn rhwydd er cyrhaeddyd,
Yr ynfyd a chysglyd ni chasglai.
GRUFFYDD.
Nanteos[1] heb orffwys, o'i mebyd, a Mabwys,[2]
A'r Trawsgoed[3] le gwiwlwys, sy'n cynnwys gŵyr call:
Gwell, ambell awr ddigri, gael rhan gyda rheiny
Na phoeni'n trysori dros arall.
MEURIG.
Nid oes well cyfeillion, na doniau mewn dynion,
Gwyr rhyw y goreuon, yn galon i gyd;
Er maint eu rhinweddau, diogel yw cartre',
Yn ara' daw maglau i dŷ myglyd.
GRUFFYDD.
Gan nad oes 'tu yma i dy fedd a dy foddia,
Amen, mi ddymuna, na ffaela'n dy ffydd,
Rhag mynd i'r poen didranc, fel annoeth un ieuanc,
Neu hen-lanc, dwy grafanc, digrefydd.
MEURIG.
Pob math ar fendithion, fy nghár, am gynghorion,
Fo'n llonni dy galon mewn dynion a da
Diwael fo dy wely, mewn lafant a lili,
A'r mêl yn dyferu 'n dy fara.