Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TROION EI YRFA.

Ganwyd John Jones yn ffermdy diaddurn Glan y Gors, ym mhlwy Cerrig y Drudion, yng ngorllewinbarth sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1767. Ei rieni oedd Lawrence Jones a Margaret ei wraig. Ymgartrefai ei henafiaid yn y lle er's. oesau yn gefnog a dedwydd eu byd, yn ol arfer yr hen wladwyr Cymreig.

Hysbysa traddodiadau'r ardal fod John yn un o'r bechgyn mwyaf llon a direidus ei ysbryd, a'r mwyaf parod ac ysmala ei eiriau yn yr holl amgylchoedd. Gallai nyddu pob math o rigymau byrfyfyr digrifol, pan yn las-lefnyn main a gwisgi; ac o herwydd ei ffraethineb a'i awen barod, adnabyddid ef fel "Jac Lan y Gors" gan gylch eangach na bro dawel Cerrig y Drudion.

Heb fod yn nepell o'i gartrefle, fe saif y Perthi Llwydion, hen breswylfa y bardd enwog Edward Morus. Diau fod y fath fachgen bywiog a nwyfus ei amgyffredion deallol a Jac yn meddwl y byd o gywyddau a chanigau cywrain a swynol bardd mawr ei hen frodir, a dysgodd wmbreth of honynt o "Flodeugerdd Cymru," a'r "Dyrifau Duwiol". Rhoddodd hynny symbliad i'w dalent. naturiol i ddilyn yr un afiaith bleserus.

Hysbysir mai Lawrence Jones, ei dad, ddefnyddiodd drol gyntaf o neb yng nghwmwd. anhygyrch "Y Cerrig," ac wedi gweld y rhyfeddod o fynd a llwyth o fawn ynddi at y ty