o'r gors gyfagos, fe neidiodd Jac, y mab arabus, ati i lunio "Mawlgân i'r Drol Newydd,"—a dyma flaenffrwyth ei gerddi.
Nid oes unrhyw wybodaeth pa faint o addysg a gafodd, ond gellir casglu oddiwrth y sillebiaeth wael sy'n ei holl gerddi boreuaf mai lled brin fu manteision ei febyd. Tra'n gweithio gartref ar y tyddyn mynyddig, bu yn dipyn o Saul barddol, oblegid ei brif hyfrydwch yr adeg yma oedd llunio cerddi duchanol i ferched beilchion, ac i wawdio gweithredoedd trwstan a thrahaus ambell i gymydog. Ni chyhoeddodd yr un o'r rhai hyn, ac amhosibl taro ar gopi o'r un o honynt yn awr; tra y mae y cerddi parchus a luniodd yn ystod y tymor difyr yma ar gael.
Gan nad ydoedd awyrgylch gymdeithasol ardal dawel ei fro enedigol yn cydweddu â'i anianawd lawen a'i asbri llengarol, heb son am faterion y bywyd hwn, penderfynodd, pan yn un ar hugain oed, fynd i Lundain, fel gyrrwr gwartheg i rai o borthmyn y fro.
Cafodd waith rhagblaen gyda rhyw haberdasher, chwedl yntau, yng nghanol y ddinas, a thrwy ddiwydrwydd, ynni, a chynildeb, daeth cyn bo hir yn ddigon atebol o ran moddion i bwrcasu gwesty y "King's Head," yn Ludgate Hill, —a dyma ei drigfan am y gweddill o'i oes. Gan ei fod yn wladgarwr Cymreig angerddol, ac o dueddfryd lawen, ffraeth, hynaws, a haelionus, ie, yn ddyn busnes o'r radd flaenaf, daeth ei dŷ yn fan cyfarfod gan Gymry Llundain o bob gradd. Gwnaeth gannoedd o gymhwynasau dros fechgyn a ddeuai i'w dŷ o'r hen wlad a anwylai mor fawr, a gwnai ei egni bob amser i