Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwilio am sefyllfaoedd parchus iddynt. Yr oedd. ei gariad at ei gydwladwyr dieithr, di—gefn, a chyffredin, yn ddiarebol. Nid oedd wedi anghofio ei hen helbulon.

Etholwyd ef ac Edward Charles yn llawn. aelodau o "Gymdeithas y Gwyneddigion,"—yr hon a sefydlwyd yn 1772. gan Owain Myfyr, gyda'r amcan o noddi beirdd Cymreig a hyrwyddo eu gwaith, yn 1790. Etholwyd Twm o'r Nant yn aelod anrhydeddus ohoni yr un adeg. Enynnodd y cyfarfyddiad y cyfeillgarwch agosaf cydrhwng y tri hyd derfyn eu gyrfa. Y mae llythyrau Glan y Gors at Edward Charles, y rhai sy 'nghadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, yn orlawn o ddonioldeb. Byddai Thomas Edwards ac yntau yn ymohebu llawer â'u gilydd. Yn ei lythyr at Dafydd Samuel, dyddiedig Awst 30, 1789, pan yn diolch amy "Pin Arian," dengys Bardd y Nant ei gariad tuag ato fel hyn,— Mi dderbyniais lythyr oddiwrth fy mrawd John Jones, Glan y Gors. Ymben mis wedi iddo ei ysgrifennu, mi a yrrais iddo Interlude er's dyddiau cyn hynny. Mewn ffit o hiraeth am ei hen ffrynd, tarawodd y nodiad erfyniol hwn, ynghanol llythyr maith at Owain Myfyr, ar y 14eg o Ebrill, 1806,"— "Byddai'n dda gennyf glywed oddiwrth John Jones, Glan y Gors. Ni chlywais, ac ni welais, ddim oddiwrtho ef er's llawer dydd."

Bu Glan y Gors o dro i dro yn fardd, ysgrifennydd, ac is—gadeirydd i Gymdeithas y Gwyneddigion." Cynhygiwyd y swydd uchaf iddo droion, ond fe'i gwrthodai yn bendant. Yn ei gywydd campus i'r swyddogion dyma fel y darluniodd Bardd Nantglyn ef, ar y pryd,—