Wedi i'r croes-helyntion ymdawelu bu Glan y Gors a'i gymrodyr yn gystal aelodau o'r "Gwyneddigion" ag erioed.
Bu cryn ymgeintach rhyngddynt a Dafydd Ddu Eryri ar ol hyn. Dyma esboniad y Du ar y cweryl, o lythyrau at Sion Lleyn,—y cyntaf yn ddyddiedig" Awst 28ain, 1806. Mae'r Gwyneddigion wedi sorri wrthyf fi, o herwydd i'm gyhoeddi i'r byd, meddynt, gabledd celwyddog am danynt, minnau nid wyf yn addef ddarfod i'm wneuthur felly. . . . Mae rhywun wedi rhoddi estyn yn y stori; drwy ddywedyd fy mod yn eu llysenwi, ac yn eu galw hereticiaid ac atheistiaid, a phob enwau drwg. Deistiaid oedd y gair a arferwyd fynychaf am danynt, ond nid pawb o honynt chwaith."
Eto, at yr un bardd, ysgrifenna "Rhagfyr 8fed, 1806. Mi fedraf roddi i chwi hanes yr ymryson a'r ddadl ymhlith y Gwyneddigion. Ysgrifenwyd attaf y disgwylir i mi gyfaddef fy mai, sef adrodd. cabledd am y Gwyneddigion, neu os amgen na ellid fy nghyfrif yn deilwng o fod yn aelod gohebol o Gymdeithas y Gwyneddigion: atebais, os dywedais rywbeth na ddyleswn am Gymdeithas y Gwyneddigion, neu ryw Gymdeithas arall, fod yn ddrwg gennyf o'r achos, ac nad oeddwn yn dewis cael fy nghyfrif yn aelod gohebol, &c., oni newidir testynau llythyrau'r Gymdeithas. Tebygwn fod y Gwyneddigion yn ddwy blaid—rhai yn fy erbyn, rhai gyda mi. Mae Huw Morys. J. J., Glan y Gors, Mr. Hum. Parri, a Mr. Wm. Williams, siopwr—hen gyfaill im', yn fy mhlaid, debygwn; mae rhyw rai a elwir 'Cynfrig' a 'Cynan' yn fy ngwrthwynebu, felly mae'r peth