mewn tywyllwch nawplyg. Nid cwbl foddlon ydynt im' gilio o'r Gymdeithas, mae'n lled debygol."
Tybir mai at W. O. Pughe, Llwynrhudol, a Glan y Gors, y taflai y Bardd Du o'r Eryri ei lysnafedd, ond os yr astudiwn lythyrau yr hen wr ei hunan at ei wahanol gyfeillion, fe'i cawn, yn sicr, "yn ffals a dau-eiriog," (a defnyddio ei eiriau ei hun am y caredig Barch. Peter Bayley Williams, person Llanrug a Llanberis).
Fel amddiffyniad i'r Gwyneddigion, mynegodd Glan y Gors mewn modd chwyrn, yn un o'i chyfarfodydd,—"Y mae'r dynion hyn (y cyhuddwyr) am wneyd i'w cymydogion a'u cyd-genedl gredu mai Deistiaid, Atheistiaid, Sosiniaid, ac Undodwyr ydym ni y Gwyneddigion: nis gwn i am un aelod olionom yn coleddu y tybiau hyn; ac os oes, y mae yn eu cadw iddo ei hun, ac nid yw y Gymdeithas yn cael ei llygru ganddo."
Faint bynnag oedd ffaeleddau Glan y Gors, amheuid gormod parthed mater pwysig sail ei fywyd tragwyddol. Nid oedd dim yn ei weithredoedd na'i leferydd yn tystio nad oedd ganddo unrhyw barch at na ffydd yn ei Waredwr. Ei brofiad yn syml oedd—"Heb Dduw heb ddim,— Duw a digon." Dyma fynegiad Glasynys ar hynyma, yn ei ysgrif arno,—"Yr oedd, mae'n debyg, o ran ei farn, yn lled debyg i Iolo Morgannwg; a chan ei fod yn ddyn agored a didderbynwyneb, ond odid na chamgymerid ei ddywediadau, ac y bernid ei ddaliadau rhyddion yn benrhyddid trwyadl."
Credo ei fywyd oedd—"Yng ngwyneb haul a llygad goleuni," a rheol ei ymarweddiad oedd—