"Parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus." Yn ei fasnach yr oedd yn onest a theg tuagat bawb, a chashai dwyll, rhagrith, rhodres, malais, cenfigen, a phob math o drais a gormes, o ddyfnderau ei enaid. Onid dyma yw diweddglo ei gyffesiad. ar ol ysgrifennu "Y Seren tan Gwmwl?" "A bydded hysbys ir gwŷr croesion ag sy'n son am fy rhoi mewn carchar, fod yn well gan i gael yr anrhydedd o farw yn ddyn rhydd, na chael yr anglod o fyw'n ddistaw,—yn gaethwas tan rwymau gorthrymder mewn gwlad lle mae cwyno yn amyneddgar am Ryddid a chyfiawnder yn cael ei gyfrif yn drosedd."
Yr oedd cysylltiad agos Glan y Gors A'r Gwyneddigion, yn un o'r bendithion mwyaf prisiadwy i lenyddiaeth Cymru yn ei gyfnod ef. Gwnai ei oreu i'w cysuro tra yn ei dŷ; ymgynghorai yn ddoeth, naturiol, ac anhunangar, ar bob mater perthynol i'w wlad; cyfrannai yn haelionus at angenrheidiau'r Gymdeithas; mynegai ei farn yn ddifloesgni heb ofni gwg cyfaill na gelyn; a diddanai bawb â'i ysbrydiaeth lawen, chwareus, a'i ddywediadau parod a ffraeth. Hunanaberthodd lawer dros ei gydwladwyr,—er yn trigiannu yn Llundain,—a dyrnodiodd fwy ar eu tueddiadau gwaelaf.
Gorffennodd y cymwynasydd Glan y Gors ei yrfa ddaearol ar ddydd Llun, yr unfed—ar—hugain o fis Mai, 1821, tra'n 54 mlwydd oed. Rhoed ei weddillion i orffwys yn Eglwys St. Gregory. Tybed a oes yno rywbeth er coffhau y prif duchangerddwr Cymreig?—C.