Mewn llonyddwch a hyfrydwch,
Dedwyddwch clydwch clau;
Boed gwlith y fendith fawr
Fel lli o'r nef a'r llawr
Yn dal i'w dilyn a'u hamddiffyn
Yn dynn bob munud awr;
Tan wir ofal rhagluniaethol,
Y nefol dwyfol Dad,
Y bo nhw beunydd, gwlwm gwiwlwydd,
Pur hylwydd, mewn parhad;
Mae gwyriad hyn o gân
O glod i'r teulu glân,
Am eu moddion hylaw haelion.
I fawrion ac i fan,
Gan fod yn barod farn cydwybod
Yn hynod dystio hyn,—
Fe fydd yn orfod i bob tafod
Roi'r clod i deulu'r Glyn.
Gan im' ddymuno gras yn groeso
I'w cyrffi dario ar dir,
Mi a ddymuna i'w heneidiau.
Gael gwledda eto'n glir;
Adnabod Iesu 'n eu gwaredu,
A'u tynnu at y Tad,
Cael ffydd i fentro 'u bywyd arno,
A cheisio ei wir iachad;
Goleuni'r Ysbryd Glân
Fel niwl a cholofn dân,
Fo'n eu cyfrwyddo i fywiol fywyd
O hyd yn ddiwahân,
I rodio grasol lwybrau nefol.
Wrth reol Un a Thri,
Er mawl penodol, fodd ufuddol,
A chlod i'w freiniol fri;