Modd i'w gael nid oes, 'rwy'n coelio,
Oni fyddwch o'ch meddalwch moddol iddo.
A ro'wch chwi o'ch llawrwydd un o'ch llyfrau,
Iddo 'n gowled erbyn Gwyliau?
Fe all pan ddelo synwyr iddo
Gael budd mawr a lles oddiwrtho,—
Geill ddysgu darllen yn fwy rhigyl,
A charu ymhellach wres da 'n fwynach—Crist
a'i 'fengyl;
Gall Duw anwyl er daioni,
A modd helaeth mewn dysgeidiaeth ei ddwys godi.
Efe yw helpwr y rhai gweiniaid,
Efe all roi i blant amddifaid
Fwy goleuni 'n eu calonnau
Nag eill ysgolion byd a'u 'sgiliau;
Geill roi i chwitha'u ufudda foddion,
Wobor helaeth, a goruchafiaeth yn dra chyfion.
Gras i'ch plant mewn llwyddiant llawen,
Iechyd, llawndra cry a lesia cywir 'lusen.
Gobeithio byddwch yn drugarog,
I wrando 'n fwyn fy nghwyn anghenog,
A rhoi llyfyr iddo 'n llawan
O hyn i'r Gwyliau, mewn modd gwiwlan;
Er imi ar frys ryfygus fegio,
Cael i chwi yw fwyllys gan Dduw dawnus dâl am dano;
Nid gwisg i'r cnawd, neu ymborth cyfraid,
Yn unig ydi, ond eluseni ar les enaid.
Mae ynddo luniaeth i'r ffyddloniaid,
A gwir hyddysg argyhoeddiad,