A Lowri Dafydd a dd'wedai ar fyrder,
"Ai machgen tyner ydwyt ti?"
"Bachgen—Tim Cymra'g-hold your bother,
Mother; you can't speak with me."
A Lowri a ddanfonai'n union
Am y Person megys Pab,
A fedrai grap ar iaith y Saeson,
I siarad rhwng y fam a'r mab!
Yna'r Person 'nol ymbleidio,
A'i tarawodd ef gyda'i ffon,
Nes oedd Dic yn dechreu bloeddio,
"O iaith fy mam, mi fedra' hon,
Ac wrth yrru yn rhy gynddeiriog,
'E daflai ei gadair ryw brydnawn,
Ar ei ben powdwr i bwll mawnog,
Lle buasai gynt yn codi mawn.
Ar brydnawn 'roedd Dic yn yfwr,
Ac yn ddwnder bloeddiwr blin;
Ac er na chadd ef gartre' ond glasdwr,
Fe aeth yn ddigynwr yfwr gwin.
O'r diwedd Dic a aeth cyn dynned,
Prin y gallai ddwedyd "Bw,"
A gofyn iddo byddai ffyliaid,
"Mr. Davies, how do you do?"
Aeth i gaboli efo biliau,
Ac i wneyd rai troiau lawer tric;
Mae rhai yn d'wedyd mai o'i anfodd,
Ond Ow ow! fe dorodd Dic.
A phan ddarfu am ei gynnydd,
'Roedd rhai yn d'weyd ei fod e'n ffol ;
A'r lleill yn gofyn mewn llawenydd,
"Wel, Die Shon Dafydd, ddoist ti'n ol?"