graddol wneyd y llafurwyr yn gaethion. Nid oedd y llysoedd cyfraith yn gweinyddu cyfiawnder, na'r eglwys yn llais efengyl. Carlamai meirchfilwyr hanner meddwon ar draws tyrfaoedd heddychlon; llusgid gwladwyr anfoddlon i'r fyddin a'r llynges. Safai barnwyr a gwladweinwyr a meddylwyr enwocaf yr oes yn gadarn yn erbyn rhyddid. Pa ryfedd i lawer gweithiwr ofyn a oedd Duw yn bod?
Glan y Gors oedd y Cymro gododd ei lais yn hyawdl ac eofn yn erbyn y gorthrwm hwn; teimlir fod yspryd rhyddid yn anadlu trwy ei "Seren dan Gwmwl" a'i "Doriad y Dydd." Glan y Gors oedd y Cymro gododd ei fflangell at ei gydwladwyr penwan a meddal oedd yn colli eu Cymraeg, ac yn colli eu parch at Gymru, unwaith y croesent Glawdd Offa. Tra'r oedd Gorthrwm. a Gwamalrwydd a Rhodres yn teyrnasu, bu ef yn llais i Ryddid, i Onestrwydd, ac i Naturioldeb. Y mae chwaeth Cymru wedi ei phuro er ei amser ef; ond y mae'r ffyddlondeb i'r gwir a'r cas at y gau, y gwladgarwch cynnes a'r dyngarwch effro sydd yn ei ganeuon, yn galw arnom roddi ei le i Glan y Gors ymysg llenorion y wlad a garodd. Wele'r caneuon, a rhai llythyrau, o gasgliad Carneddog. Daw"Y Seren dan Gwmwl mewn cyfrol arall, a "Thoriad y Dydd," a'r llythyrau.
OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen, Mai 15, 1905.