GWLADGARWCH.
At Richard Morris, Ion. 24, 1754
CAREDIG GYDWLADWR,—Echdoe y derbyniais yr eiddoch o'r namyn un ugeinfed o'r mis sy 'n cerdded. Drwg iawn gennyf glywed ynghylch y peswch brwnt sy 'n eich blino; a meddwl yr wyf nad oes nemawr o'r gwŷr a facer yn y wlad a eill oddef mygfeydd gwenwynig y ddinas fawr fwrllwch yna. Mi adwaen lawer a gollasant eu hiechyd yna mewn llai nag ugeinfed ran o'r amser y buoch chwi yn preswylio ynddi. Duw piau llywodraethu a rhannu 'r bywyd ac iechyd; ac, os mynnai efe, llwyr y dylai Gymru erfyn arno ganiatau ichwi yn hir bob un o'r ddau; oblegid, pe amgen, nis gwn pa beth a ddelai o'n Cymdeithas na 'n hiaith ychwaith. Am ein cenedl, honno a ymdarawai trosti ei hun, gan ddirywio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un á chenedí fawr yr Eingl; ac yna y gwiried geiriau 'n drwg ewyllyswyr; sef, na pharhäi ein hiaith oddiar can mlynedd ar wyneb y ddaear. Telid Duw iddynt am hynawsedd eu darogan.
"Aie"? meddwch. Nid oes gennych neb yn eich Cymdeithas onid chwi eich hun a fedr wneuthur ymadferth nag ystum yn y byd tuag at ddangos eich hamcanion buddiol i'r byd. Och fi! Gresyndod mawr yw hynny. Gwae fi na bawn yn eich mysg; ni chai fod arnoch ddim diffyg ysgrifennydd, na dim arall o fewn fy ngallu fi. Ceisied yr aelodau gwasgaredig o'ch Cymdeithas eich cynorthwyo orau gallont tuag at y tipyn llyfryn hwnnw, os oes modd. Rhoed Gwilym Cybi ei law i mewn am lysiau, blodau garddwr-