Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/103

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth; canys nid oes mo 'i well am hynny. Rhoed. Llywelyn ynteu ei ran am hynafiaeth, hanesion, ac historiau, philosophyddiaeth anianol, a'r cyffelyb yr hyn bethau a ŵyr oddi wrthynt orau yng Nghymru, pe cai amser; ond nis gwn i ddim oddi wrthynt. Minnau, ac Ieuan Brydydd Hir ysgatfydd, a rof fy nwy hatling tuag at farddoniaeth, philology, a'r cyffelyb. A thros ben hynny, nid ymdderchafaf, oblegid nas meddaf nag amser na llyfrau cyfaddas i'r fath bethau.

[At John Rowlands, Clegir Mawr, Mon.]

YR ydwyf fi yn talu yma bum swllt a chwecheiniog y mesur am y gwenith Winchester measure. Y mae 'r gwair yn wyth geiniog yr Stone; hynny yw, ugain pwys y cwyr am wyth geiniog; yr haidd yn ddeuswllt a deg ceiniog, a thriswllt y Winchester measure; a phob peth arall yn ol yr un bris.

Mae hi'n awr yn hir amser er pan fu 'm yn Mon; ac yr wyf agos wedi bwrw fy hiraeth am dani. Eto pe cawn le wrth fy modd ynddi, mi ddeuwn iddi eto, er mwyn dysgu Cymraeg i'r plant; onide hwy fyddant cyn y bo hir yn rhy hen i ddysgu; oblegid y mae 'r hynaf yn tynnu at chwe blwydd oed, heb fedru eto un gair o Gymraeg; ac yn fy myw ni chawn gantho ddysgu; oni bai ei fod ymysg plant Cymreig i chware; ac ni fedr ei fam ddim Cymraeg a dâl son am dano, ond tipyn a ddysgais i iddi hi. mae sir y Mwythig yn llawer hyfrytach a rhatach gwlad na hon; ac mae 'n lled edifar gennyf ddyfod yma. Ond eto y mae 'r cyflog yma 'n