fwy o gryn swm. 'R wyf yn cael yma yn nghylch dau ugain punt yn y flwyddyn, a llawn lonnaid fy nwylaw o waith i'w wneuthur am danynt. Mae yma gryn farwolaeth yn ein plith. Mi fyddaf weithiau 'n claddu pobl o fesur tri a phedwar yn y dydd. Dyma alwad arnaf i ymweled â'r claf y munudyn yma; felly ffarwel.
GRONW OWEN.
N.B.—Mae fy mrawd Owen ynteu wedi priodi er ys rhwng chwech a saith o flynyddoedd, ac yn byw o hyd yn Nghroes Oswallt yn sir Mwythig, a chanddo naill ai pedwar ai pump o blant. Ond ni welais i mono fo na hwythau er yn nghylch dwy flynedd a hanner neu well. Byddwch wych; a gadewch glywed oddi wrthych pan gyntaf y galloch.
[At William Morris, Ebrill 1, 1754)
A beth a ddaeth o Ned Foulkes, person Llansadwrn? Oherwydd mi glywaf fod ei le fo 'n wag.
[At Richard Morris, Ebrill 9, 1754]
Y CAREDIG GYDWLADWR,—Nid wyf yn ameu nad ydych bellach yn tybio fy mod wedi marw yn gelain gegoer. Ac yn wir fe fu agos i'r peswch a'r pigyn a'm lladd. Nid wyf yn cofio weled erioed gethinach a garwach gauaf. Nid yw 'r wlad oerllom yma ddim yn dygymod à mi 'n iawn. Llawer clytach oedd Swydd y Mwythig. Dyma ddeuddydd o hin wych yn ol yr amser o'r flwyddyn. Nid oes dim yn fy mlino cymaint a darfod i'r pigyn brwnt, a rhyw dra-