Oedd. Oedd, yr hen Dr. Davies o Fallwyd yn
dyall yr iaith Gymraeg yn bur dda, heb law
laweroedd o ieithoedd eraill. Ac nid eisiau dyall
a wnaeth iddo adael allan o'i Eirlyfr gymaint
eiriau, ond brys a blys ei weled wedi dyfod i ben
cyn ei farw. Mae 'n ddigon er peri i galon o
gallestr wylo 'r hidl ddagrau wrth weled fal yr
oedd yr hen Gorph druan yn cwyno yn ei
Ragymadrodd rhag byrred yw hoedl dyn, ac yn
mynegu pa sawl cynnyg a roesai lawer o wŷr
dysgedig ar wneuthur Geirlyfr Cymraeg; ond
bod Duw wedi torri edau 'r einioes cyn i'r un o
honynt, oddigerth un, gael amser i gwblhau ei
waith; ac yntef ei hun yn ennyd fawr o oedran,
gwell oedd ganddo yrru ei lyfr i'r byd heb ei
gwbl orffen, na 'i adael megis erthyl ar ei ol, yn
nwylaw rhyw rai, ysgatfydd, na adawsent iddo
byth weled goleu haul. A diameu mai diolchgar a ddylem oll fod iddo am ei waith, a mi yn
anad neb, oblegid efe a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, neu, o'r lleiaf, a'm cadwodd rhag ei cholli yn nhir estron genedl.
MAE gennyf yma yn fy meddiant fy hun, garp o hen lyfr MS. o gywyddau a darewais wrtho yn Nghroes Oswallt, a yrraf yna i chwi, os nad yw 'r cywyddau gennych eisoes. It was written by one that calls himself Edward ap David, in the year 1639. I conclude him to have been a Shropshire Welshman; and, indeed, his llediaith and banglerdra sufficiently show it. Er hynny amor iddo am ei ewyllys da a'i gariad i'r Iaith, er carnbyled oedd ei waith arni. Yr oedd gennyf