Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth hynny chwi ellwch weled nad oes nemawr o fri ar ein hiaith yn y wlad honno. Mi gefais yno. hefyd Eirlyfr y Dr. Davies, nid llawer gwaeth na newydd, am chwe swllt. Had I, when I lived in Oswestry, been as nice a critic in valuable old books as I was in voluble young women, I might have furnished myself pretty moderately; but who can put an old head upon young shoulders? Nid oedd gennyf yr amser hwnnw ddim blas ar Gymraeg na phrydyddiaeth; na dealltwriaeth, na chelfyddyd yn y byd ynddynt ychwaith.

Wyf, etc.,

GRONWY DDU.



YR ANWYL GYFAILL,—Dyma'r eiddoch o'r 11g wedi dyfod i'm llaw ddoe; ac yn wir rhaid yw addef fy mod wedi bod yn lled ddiog yn ddiweddar am na buaswn yn gyrru yna ryw awgrym i ddangos fy mod yn fyw cyn hyn. Ond bellach, bellach, dyma fi yn ei rhoi hi ar do, ac mi orffennaf fy llythyr y foru, oddigerth i'r cywion personiaid yma fy hudo allan i ganlyn llosgyrnau cŵn ac i wylltio ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i bob wythnos, ddwywaith o'r lleiaf, a phrin y llyfasaf eu nacäu. However a little exercise does no hurt, and the young gentlemen are very civil.

Mi fum yn brysur yn nghylch diwedd y Gorffennaf yn parotoi i gyfarfod yr esgob i geisiaw ei dadawl ganiatad i bregethu, etc., yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am fy arian; ond nis gorfu arnaf gymeryd yr un licence am yr ysgol. Ac er pan glywais y newydd o'r Castell Coch mi