Gwir yw am brydydd; ac felly y dywedai 'r Lladinwyr, "Poeta nascitur, non fit," hynny yw, "Prydydd a enir, nis gwneir "; mal pe dywedid, Nid ellir prydydd o'r doethaf a dysgedicaf tan haul, oni bydd wrth natur yn dueddol i hynny, a chwedi ei gynhysgaeddu gan Dduw ag Awenydd naturiol yn ei enedigaeth. Os bydd i ddyn synwyr cyffredin, a chyda hynny, astudrwydd, parhad, ac ewyllysgarwch, fe ellir o honaw eglwyswr, cyfreithiwr, gwladwr, neu philsophydd. Ond pe rhoech yr holl gyffiriau hynny yn nghyd, a chant o'r fath, ni wnaech byth hanner prydydd. Nid oes a wna brydydd onid Duw a Natur. Ni cheisiaf amgen tyst o hyn na M. T. Cicero. Pwy ffraethaf areithydd? Pwy ddyfnach a doethach philosophydd? Ar air, pwy fwy ei ysfa, a'i ddinc, a i awydd i brydyddu? Ac eto pwy waeth prydydd? Trwstan o fardd yn ddiameu ydoedd; ac odid ei gymar o wro ddysg, oddigerth yr hen Ddr. Davies o Fallwyd. Eto, er argymhenu ac ymresymu o honaf fal hyn, nis mynwn i neb dybio mai afraid i brydydd fod yn wr o ddysg. Nage; nid felly y mae ychwaith. Er na ddichon dysg wneuthur prydydd, eto hi a ddichon ei wellhau. Cymerwch ddau frawd o'r un anian, o'r un galluoedd o gorph a synwyr, ac o'r un Awenyddol dueddiad, a rhowch i'r naill ddysg, a gomeddwch i'r llall, ac yno y gwelir y rhagoriaeth. Er na ddichon y saer maen wneuthur maint y mymryn o faen mynor, eto fe ddichon ei 'sgythru a'i gaboli, ei lunio ai ffurfio, a gwneuthur delw brydferth o honaw, yr hyn ni ddichon byth ei wneuthur o'r grut bras a'r gwenithfaen.