Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Huzza! huzza! Mae Mr. Mosson yn ddyn da. Dyma lythyr oddi wrtho yn mynegu fod Dr. Wynne o Ddolgellau wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn o'm llaw a'i yrru i ffordd i gael amser i ysgrifennu i Allt Fadog ac at yr Iarll, etc. Nid allaf gymeryd amser i ddywedyd dim ychwaneg, ond bendith Dduw i chwi am roi Mr. Mosson ar waith, ac iddo yntef am ysgrifennu cyn cynted.

Yours, etc., etc.,

GORONWY DDU.

[At Richard Morris, Tach. 9, 1754]

YR ych yn gofyn pam yr wyf yn gadael i'r Awen rydu? Rhôf a Duw pe cawn bris gweddol am dani mi a'i gwerthwn hi. Beth a dal Awen lle bo dyn mewn llymdra a thylodi? a phwy a gaiff hamidden i fyfyrio tra bo o'r naill wasgfa i'r llall mewn blinder ysbrydol a chorfforol?

HIRAETH.

At William Morris, Rhag. 2, 1754

Wel! Wel mi welaf nad oes dim siawns am ddyfod i Gymru. Nid oes mo 'r help. Yr wyf yn gwbl foddlon i'm tynged, doed a ddel; a gwell o lawer i mi na feddyliwyf byth am Gymru; ond rhoi fy llwyr egni i ollwng y Gymraeg dros gol, fal y mae y rhan fwyaf o'm cydwladwyr hyd Loegr yn ceisio gwneuthur, hyd onid yw yn swil ganddynt glywed son am Gymru a Chymraeg. Eto fal y dywaid y philsophydd