Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paganaidd pan oedd yn methu dygymod â Christionogaeth o herwydd ei symlrwydd, a'i hawsdra, ac anysgeidiaeth yr athrawon:— Sit anima mea cum Philosophis; hynny yw: "Bid fy enaid i gyda 'r Philosophy ddion;" fel y, Bid fy nghorff innau gyda 'r Cymry," ie a'm rhandir, a'm coelbren, a'm hetifeddiaeth yn y byd yma, os gwel Duw yn dda. Pe medrwn unwaith gael y gorau arnaf fy hun, a thraethu 'r naturiol hoffder sydd gennyf i'm hiaith, a'm gwlad, dyn a fyddwn. Ond beth a dal siarad? A fo da gan Dduw, ys dir.

Na ddo. Ni ddaeth Bob Owen ir cyrrau yma eto, am a wn i. Duw o'r nef a'i dyco 'n ddiangol! Mae fy nghalon yn gofidio trosto bob munud gan arwed yr hin ir mordwywr bychan. Fe fu gefnder i mi yma 'n ddiweddar o baith a Mynydd Bodafon, ac yn ol yr hanes a gefais gan hwnnw, nid yw Bob gyffelyb i wneuthur Cymraeg Mon fawr brinach er a ddyco yma o honi. He tells me they are fond of learning English from him, and so never trouble their heads about teaching him Welsh. He said he would take him for a week with him to Agnes Gronow, my aunt. If so, I am sure he will be very much made of, and will hear plenty of Welsh, while he has time to stay. God send him a fair wind and a good passage. I do not care how soon I see my little boy. Er mwyn dyn gadewch gael Ystori y Maen gyda'r Efengyl yn gyfan o'i phen. Mae 'n debyg mai ci brathog oedd y ci, a'r Manach yn rhoi prawf ar wyrthiau 'r Efengyl i'w wastrodedd o. Ond pwy oedd y dyn a feddyliodd am wyrthiau 'r maen? Garddwriaeth, meddwch, yw 'r genuine