Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yno daw Gwyliau llawen
I mi ac i bawb. Amen.

Mi gefais lythyr oddiwrth y Llew yr un diwrnod a'ch un chwithau. Yr oedd pawb yn iach yno, ac ynteu ar gychwyn i Lundain. Yr oedd yn peri i mi gymeryd calon—not to be disheartened: ond—

"Hawdd yw d'wedyd Dacw'r Wyddfa';
Nid eir trosti ond yn ara';"

eto yr wyf yn tybio fod fy nghalon i o ddur neu o ryw ddefnydd rhy wydn a pharhaus i dorri.

Mae, fel y byddwch gan fwyned ag ymwrando, eisiau am offeiriadaeta imi erbyn Calanmai; oblegid mi roddais warning i'm hen feistr er ys mis neu well, drwy rhyw ymgom a fuasai rhyngof a'r Mynglwyd yn nghylch myned yn Offeiriad Cymreig yn Llundain; a chan nad wyf yn clywed gair oddi wrtho, I mistrust that the scheme has miscarried, and almost repent of my rash warning here. My circumstances will not allow me to be idle for one week.

MARW ELIN.

At y Parch. Hugh Williams, Aberffraw, Ebrill 25, 1755

DEAR W———s,—Y munudyn yma agos y cefais eich llythyr o'r ddegfed, a gwych gennyf glywed pa fodd y rhannwyd y lleoedd yna, er nas