gwaeth i mi o nodwydd pwy a'u caffo am y diengwyf i rhag cael yr un o honynt. Can diolch i chwi am ymofyn; ond yr wyf yn tybio mai yn Lloegr y cyst i mi adael fy esgyrn, er maint fy ewyllys eu dwyn i Gymru. Ni fyddai waeth gennyfi o fymryn wlad arall o Gymru na Mon; ond odid i'm ddyfod byth ychwaneg i unlle yn Nghymru, canys dyma fi yn myned yn union i Lundain, cyn pythefnos o'r haf, lle mae 'r Cymrodorion yn addo i mi a'r teulu ddigon o gynhaliaeth hyd oni chaffont i mi Bersonoliaeth yn rhyw wlad. Mi gaf gyflog am fod yn Ysgrifennydd ac yn Gyfieithydd, &c.. iddynt, ac y maent yn bwriadu llogi rhyw eglwys neu gapel, a thalu i minnau am offeiriadu yn Gymraeg ynddi unwaith bob Sul. Peth cyffredin yn Llundain yw bod Gwasanaeth Ffrengig, Seisnig, &c., yn yr un eglwys ar yr un diwrnod, ond ar amrafael oriau. Mae'nt yn rhoi imi addewidion mawr; nis gwn i beth a wnant; ond gyda Duw, mi fynnaf weled. Felly oni fedrwch ddyfod y ffordd yma ynghylch Calanmai, neu fy nghyfarfod yn rhyw le ar y ffordd i Lundain (yn Nghaer neu Mwythig), odid ini byth weled. ein gilydd nag ysgwyd llaw ond hynny. Duw er hynny ŵyr orau, a'i ewyllys ef a wneler.
Och fi! mi gefais innau anfeidrol drymder er pan ysgrifennais atoch o'r blaen. Fe fu farw fy unig eneth anwyl i yr hon a gleddais y Gwener diwaethaf. Dedwydd gyfnewid iddi hi, f' enaid. bach! ydoedd hwnnw, ac oni bai wendid Natur ddynol, ni byddai i ninnau ddim achos i dristhau llawer, erbyn ystyried ol a blaen. Dyma ddarn o'r Marwnad, ond ei bod yn anorffen eto. Awdl yw o amryw fesurau yn terfynu yn yr un brifodl