yn dechreu gallu ymdaro trosof fy hun, fe fu farw fy mam, ac yna nid oedd ond croesaw oer gartref i'w ddisgwyl. I Dduw y bo yr diolch, mi a welais ac a gefais lawer o adfyd, ac yr wyf eto yn methu cefnu 'r cwbl; ond gobeithio 'r wyf weled o honof y darn gwaethaf o'm bywyd eisus heibio. Da iawn a fydd gennyf glywed oddi wrthych. pan gaffoch gyfleusdra, a goreu po gyntaf. Bid sier i chwi, os gwelwch yn dda, gael rhyw gywydd yn y nesaf, ac yn mhob un o hyn allan. Chwi a gawsech "Gywydd y Farn" yn hwn oni buasai fy mod yn meddwl mai gwell i chwi ei gael yn argraffedig. Os nid ellwch yn hawdd ddidolli 'ch llythyr â ffrencyn, gyrrwch ef ymlaen heb yr un. Ni wna grotan na 'm dwyn na 'm gadael.
Eich, &c.,
- GORONWY OWEN.
Y BARDD A'I AWEN.
[At William Elias, Plas y Glyn, Mon: Tach. 30, 1751.]
Y CELFYDDGAR Frytwn, a'm hanwyl gyfaill gynt, —Chwi a glywsoch son, nid wyf yn ameu, am ryfeddol gynheddfau yr ehedfaen, pa wedd y tyn ato bob math o ddur a haiarn. Nyni a wyddom fod y gynneddf hon yn yr ehedfaen a'r haiarn hefyd, ac a allwn weled â'n llygaid yr effeithiau rhyfeddol uchod; ond nis gwyddom pa fodd, na phaham, y mae y peth yn bod; oblegid hod hyn, cystal ag amryw eraill o ddirgelion natur, yn fwy nag a allodd holl ddoethion a dysgedion byd erioed ei amgyffred. Ni fedraf lai na meddwl fod rhyw beth tra chyffelyb i hyn. yn natur dyn, yr hyn a bâr iddo gynhesu wrth