hunain. Ni 'm dawr i pa farn a roir arno, oblegid gael o honaw farn hynaws a mawrglod gan y bardd godidocaf, enwocaf, sy 'n fyw y dydd heddyw, ac, o ddamwain, a fu byw erioed yn Nghymru; nid amgen Llywelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy na myrdd o'r mân-glytwyr dyriau, naw ugain yn y cant, sydd hyd Gymru yn gwybeta, ac yn gwneuthur neu yn gwerthu ymbell resynus garol neu ddyri fol clawdd. Pe cai y fath rimynwyr melltigedig en hewyllys, ni welid fyth yn Nghymru ddim amgenach a mwy defnyddfawr na 'u diflas rincyn hwy eu hunain.
Am y Gramadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt. Ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn cost na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf fi eto berchen y boced a brynnai lyfr o werth dwybunt. Rhyw goron neu chweugain a fyddai ddigon gennyf fi wario ar lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deisyf nac yn disgwyl yr aech chwi i'r boen o ymofyn gan fanyled yng nghylch y fath beth. Rhaid mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau hyd oni throa Duw ei wyneb, a gyrru imi fy ngofuned neu ryw beth a fo cystal er fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr arian tuag at fagu 'r bardd a'r telyniawr, a chodi calon
"Y wraig Elin rywiog olau."
Am y llyfrau Arabaeg ac Ebrwy sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddi arnoch. Ni fyddai hynny mor llawer gwell na lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae 'n gyffelyb eich bod