yn ameu na byddai Llangristiolus yn ddigon i mi í fagu fy mhlant, pe caid. Ni rwgnach ffrencyn er dwyn llen gyfan o bapur mwy na phed fai onid hanner hynny, ac am hynny mi yrrais i chwi ar y tu arall i'r llen ryw fath o gywydd, nid y gorau, ond y diweddaf a wnaethum. Mi a'i gyrrais i Geredigion yn y llythyr diweddaf; ond ni chlywais eto pa un ai da, ai drwg, ai canolig ydyw. Dyma fo i chwi fal y mae gennyf finnau.
Llawer iawn o drafferthion a phenbleth a roes Duw i'm rhan i yn y byd brwnt yma; ac onide, mi fuaswn debyg i yrru i chwi ryw fath o gywydd coffadwriaeth am yr hen wraig elusengar o Bentref Eiriannell; ond nis gallaf y tro yma. Mae'r ysgol ddiflas yma agos a'm nychu fi. Pa beth a all fod yn fwy diflas a dihoenllyd i ddyn a fae yn myfyrio na gwastadol gwrnad a rhincyn cywion Saeson? Prin y caf odfa i fwyta fy mwyd ganddynt. Bychan a fyddai fod cell haiarn i bob un o honynt o'r neilldu, gan yr ymddyrru a'r ymgeintach y byddant; ac fel tynnu afanc o lyn yw ceisio eu gwastrodedd. Ond nid hynny mo gorff y gainc 'chwaith. Mae'r rhieni yn waeth ac yn dostach na 'r plant; pobl giaidd, galedion, ddigymwynas, anoddefus ydynt oll, a'r arian yn brin, a'r cyflog yn gwta, a'r cegau yn aml, a'r porthiant yn ddrud gyda minnau. Duw a'm dyco o'u mysg hwynt i nef neu Gymru, yr un a welo yn orau.
GORONWY OWEN.
P.S.-If Llangristiolus could be had at all, I suppose it would not be till after the death of the present incumbent. Mi adwaen yr hen Gorff, a. hen Walch gwydn yw, mi a'i gwarantaf.