Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Drosom Iachawdwr eisoes
Rhoes ddolef daer gref ar groes;
Ac eiddo ef nef a ni,
Dduw anwyl, f' a'i rhydd ini.
Molaf fy Naf yn ufudd;
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd.
Dyma gysur pur, heb ball,
Goruwch a ddygai arall—
Duw dy hedd; rhyfedd er hyn
Bodloni bydol innyn.
Boed i anghor ei sorod;
I ddiffydd gybydd ei god;
I minnau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.

MARWNAD MARGED MORYS.

[At William Morris, Rhag. 8, 1752]

CHWI gawsech glywed oddi wrthyf yn gynt, ond odid, oni buasai y rhew tost a fu'n ddiweddar. Nid yw 'r Awen ond fferllyd ac anystwyth ar yr hin oer yma. Ni chaiff dyn ychwaith mo'r amser i brydyddu, gan fyrred y dyddiau, a chan ymsgythru ac ymwthio i gonglau; a pha beth a dal crefft heb ei dilyn? Pa wedd bynnag, dyma i chwi ryw fath o'r bwt of gywydd o "Goffadwriaeth" am yr hen wraig dda o Bentref Eriannell gynt. Hoff oedd gennyf fi hi yn ei bywyd; a diau fod rhywbeth yn ddyledus i goffadwriaeth pobl dda ar ol eu claddu; yr hyn, er nad yw fudd yn y byd iddynt hwy, a eill ddigwydd fod yn llesol i'r byw, i'w hannog i ddilyn camrau y campwyr gorchestol a lewychasant