BYWYD YN DONNINGTON.
At William Morris, Chwef. 24, 1753
ER hoffed gennyf yw eich hepistolau, eto, nid. wyf yn anoddefgar nad allwn weithiau aros eich cyfleusdra am danynt; nag mor sarrug, nad allwn faddeu ryw swrn o'ch hesgeulusdra, o bai raid, a chyd ddwyn â'ch anibendod am nad wyf fy hun mor esgud ag y gweddai. Felly, boed. sicr i chwi, nad ymliwiaf byth â chwi o'r ethryb hwnnw; a phed fawn Bab, chwi gaech lonaid y cap coch o'm pardynau, Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minnau gael geiriau i adrodd, mor rhwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau mai o wir serch ar ddaioni, ac nad o ran cydnabyddiaeth, neu un achos arall o'r cyfryw, y mae Mr. Ellis cymaint ei garedigrwydd. Duw, awdur pob daioni, a dalo iddo! Fe orfydd arnaf yn ddiamau chwilio am ryw le cyn bo hir; ac felly, debygaf, y dywedwch chwithau pan wypoch fy hanes.
Mae gennym yma ryw ddau ysgweier o hanner gwaed, chwedl y Bardd Cwsg; un Mr. Lee, ac un Mr. Boycott. Y naill a fu, a'r llall y sydd, yn ben trustee i'r ysgol yma. Yr oeddwn o'r dechreu mor gydnabyddus a'r naill ag â'r llall. Y diweddaf sydd yn un o m plwyfolion yn Uppington; ond y llall a fu yn wastadol yn gynorthwywr imi yn fy anghenion. Mr. Lee a roe i mi fenthyg pum punt neu chwech wrth raid; ond gan Boycott ni chaid amgen na mwg o ddiod a phibellaid; ac weithiai, pan ddigwyddai iddo ddyfod i'r eglwys, yr hyn ambell flwyddyn a fyddai ynghylch teirgwaith, mi gawn ran of giniaw, os mynnwn;