ond fe 'm nacaodd, y cadnaw, o fenthyg chweugain wrth fy angen, er nas gofynaswn ond i brofi ei haelder ef. Yr ych yn llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed son am fenthyca arian; ond ped rhyfedd y peth a mi yn dal rhyw faint o dir, ac yn talu treth, ac ardreth, a chyflogau, heb dderbyn mo 'm cyflog fy hun ond dwywaith, ac yn amlaf unwaith, yn y flwyddyn. Ba ddelw bynnag, mae rhyw elyniaeth rhwng y ddau wr uchod; a'r sawl a gaffo gariad un, a fydd sicr o gas y llall. Lee sydd Chwig, a Boycott sydd yn un o addolwyr lago. Pob cyffelyb a ymgais, fal y dywedynt; felly nid anhawdd dirnad pa 'r un gymhwysaf ei hoffi o ran ei blaid; a, phed amgen, pa 'r un a haeddai hefyd ei hoffi er mwyn ei haelioni. Nid ellais erioed aros addolwyr Baal, lago, &c., a'u cabals a'u celfi; ac ni ddysgais erioed chwareu ffon ddwybig; a thybio yr wyf na ddichon neb wasanaethu Duw a Mammon. O'r ddeuwr hynny Boycott yw eilun fy meistr (fal y mae gnawd i un o Ucheldir yr Alban), a chan fod yn gorfod arno ef fod yn Llundain, ar law Boycott y gadawodd ei holl faterion yma i'w trin fal y mynno. Ac felly Boycott sy 'n talu i mi fy nghyflog ac yn derbyn fy ardreth. Ac yn awr dyma 'r anifail, wedi cael o honaw fi yn ei balfau dieflig, yn dwyn fy nhipyn tir oddi arnaf. Yn iach weithion i lefrith a phosel deulaeth; ni welir bellach mo'r danteithion gwladaidd hynny heb imi symud pawl fy nhid. Ni wiw imi rhagllaw ddisgwyl dim daioni yma; ac anghall a fyddai fy mhen pe disgwyliwn; ac odid imi aros yma ddim hwy na hanner y Gwanwyn o'r eithaf. Ond o'r tu arall mae imi hyn o gysur. Dacw Mr. Lee wedi
Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/66
Prawfddarllenwyd y dudalen hon