cael imi addewid o le gan yr arglwydd esgob o Landaff, yn gyntaf byth y digwyddo un yn wag yn ei esgobaeth. Mi glywaf ddywedyd na thal y lleoedd hynny nemawr, ac nad oes ond rhyw ychydig iawn o honynt ar ei law ef, ped fai'r holl bersoniaid yn meirw. Beth er hynny? Gwell rhyw obaith na bod heb ddim. Ond och! fi, wr fach, pa fodd imi ddyall eu hiaith hwynthwy? A pha bryd y caf weled fy anwylyd,
"Mon doreithog a'i man draethau?"
Dyna gorff y gainc.
Llawer gwaith y bwriedais gynt, ac nis gwelaf eto achos amgen, na ddown byth i breswylio ym Mon, hyd na bawn well fy nghyflwr nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi. Pan ddaethum o honi yr oedd gennyf arian ddigon i'm dianghenu fy hun (a pha raid ychwaneg?) ac nid oedd arnaf ofal am ddim ond fy ymddwyn fy hun fal y gweddai. A thybio yr oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn ddigon i borthi un genau. Diameu na thybia 'r byd mo 'r cyflwr presennol elfydd i hwnnw a grybwyllais. Mae gennyf yn awr lawer o safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes gennyf ond yr un rhifedi o ddwylaw ag o'r blaen tuag ymdaro am fy mywyd. Eto, er maint fy ngofalon, cyn mhelled wyf fi oddiwrth feddwl fy nheulu yn bwys a gormes arnaf, a'm bod yn fy nghyfrif fy hun yn ganwaith dedwyddach na phe fai gennyf ganpunt sych wrth fy nghefn am bob safn sydd gennyf i ofalu trosto. Pe digwyddai imi unwaith ddyfod at Gerrig y Borth yn y cyflwr yr wyf, da y dylwn ddiolch i Dduw a dywedyd, fal y dywedodd y padriarch Jacob, "Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di,