Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfer llymeitian hyd y sucandai mân bryntion yma. Os chwenychwn bot a phibell, y mae imi groesaw y prydnhawn a fynnwyf gyda 'r hen Lew ei hun, lle cawn botio 'n rhad ac ysmocio cetyn lawlaw, ac yna hwre bawb a'i chwedl digrif a dwndrio wrth ein pwys hyd oni flinom. Dyn garw oedd y curad diweddaf. Nid ai un amser ond prin i olwg yr hen Gorph; ac os âi, ni ddywedai bwmp ond a ofynnid iddo, ac fyth ar y drain i ddiane i ffordd; oblegid hoffach oedd ganddo gwmni rhyw garpiau budron o gryddionach, cigyddion, etc. Ac yn nghwmni y cyfryw ffardial yr arosai o Sul i Sul yn cnocio 'r garreg, chwareu pitch and loss, ysgwyd yn yr het, meddwi, chwareu cardiau, a chwffio, rhedeg yn noeth lyman hyd strydoedd Lerpwl i ymballio â'r cigyddion, a rheiny A'u marrow bones a'u cleavers yn soundio alarm o'i ddeutu, myned i'r eglwys ar foreu Sul yn chwilgorn feddw, etc.

Yr wyf wedi cael myned yn ben meistr i'r Ysgol; ond nid rhaid imi wneuthur dim yn y byd oni ddigwydd i rai ddyfod i ddysgu Lladin. Y mae gennyf un arall tanaf i ddysgu Saesneg, i'r hwn yr wyf yn rhoi wyth punt yn y flwyddyn am ei boen. Ac felly y cwbl yr wyf fi yn ei gael ydyw ynghylch chwe phunt neu saith yn y flwyddyn, heblaw 'r ty yn y fynwent. Ac y mae hynny yn ddigon am wneuthur dim. Y mae'r fargen wedi ei chloi, canys y mae 'r articlau cytundeb wedi eu tynnu a'u seinio rhyngof fi ac Edward Stockley, fy usher a'm cochydd, i'r hwn. y rhoesai 'r plwyfolion yr ysgol. Felly fy holl gyflog i sydd yn nghylch pedair punt a deugain yn y flwyddyn rhwng y ty a'r cwbl.