than she. And that, I must own, has been of infinite service to me.
At William Morris, Gorff. 21, 1753.
TRA thrafferthus y gwelaf fi hel ychydig of ddodrefnach ynghyd; a hynny oedd raid imi wneuthur mewn byr o amser oni byddai well gennyf fy ngwerthu fy hun am a dynnai fy nannedd. Hawdd yw cadw un pen; ond y mae pedwar pen yn gofyn cryn lafur. Pa fodd bynnag dyma fi, i Dduw bo 'r diolch, yn y Ty yn y Fynwent, a'm teulu gyda myfi; ac ar ddarpar byw 'n ddigon taclus, os Duw rydd hoedl ac iechyd. Mi yrrais ichwi o'r blaen hanes yr ym- gomio a fu rhyngof a'r Aldramon Prisiart. Mil a'i gwelais un waith neu ddwy wedi hynny; a gŵr mwynaidd iawn ydyw. Mi gefais y dydd arall lythyr oddiwrth Llywelyn o Lundain. Yr oedd o ai frawd yn sione, ac wedi agos orthrechu ei elynion, ac yn dwrdio bod gartref, yn Ngallt. Fadawg, yn mhen y pythefnos.
Yr ydych bellach, nid oes ameu, yn disgwyl dau neu dri o gywyddau yn iawn am fy esgeulusdra, ac achos da paham. Ond os coeliwch y gwir, ni fedrais unwaith ystwytho at gywydd nag englyn er pan ddaethum i'r fangre yma. Nid oes gennyf lyfr yn y byd na Chymraeg na Saesneg yma, ond y Bardd Cwsg yn unig. Ond gobeithio y caf fy llyfrau ataf cyn bo hir. Y mae rhyw achos yn llestair imi fyned ynghyd a dim prydyddiaeth nes y caffwyf fy llyfrau yma; a hynny yw, because Llanbrynmair and Evan Brydydd Hir have made some objections against