Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

camlet, to make him a suit of clothes, which it really did, and somewhat above. And the other day, when I had a couple of neighbouring clergy- men come to see me, he sent me a bottle of rum, and was pleased to favour me with his company, though he very seldom stirs abroad to any friend's house. Whenever he goes to visit a friend, which he has done three or four times this summer, he always desires my company and finds me a horse.

Campau yw y rhai hyn nad oes mo honynt yn perthyn i bob patron. Mor galeted a chieiddied oedd yr Ysgotyn brwnt hwnnw, Douglas! Mae'r gwalch hwnnw 'rwan yn cynnyg deg punt ar hugain, a'r ty, a'r ardd, &c., yn Donnington; ac er hynny yn methu cael curad. Byth nas caffo! Pe rhoisai hynny i mi, nid aethum led fy nhroed oddiyno. Amheuthun iawn i mi y troiad yma ar fyd. Duw a'i cynhalio ac a gadwo imi fy hen Batron Brooke; am y bawai gan Ddouglas gyrrith. "Draen yn ei gap a hoel helyg"! Yr wyf yn gweled yr awrhon mai "y gorau a gair orau," fel y dywedai fy mam; ac mai,

"Hyspys y dengys dyn,
O ba radd y bo i wreiddyn."

Mi gaf fy llyfrau yr wythnos yma, 'r wy 'n gobeithio; ac yna mi dorraf waith iddynt mewn barddoniaeth orau y medrwyf, ac nid yw hynny ond digon sal, mi wranta. Mae gennyf yma gryn waith ar fy nwylaw, mwy yn hytrach nag yn Donnington. Eto mi gaf weithiau ystlys odfa i weu rhywfaint wrth fy mawd, yn enwedig pan êl y nos yn beth hwy; oblegid gwell gan yr Awen hirnos gauaf, er oered yr hin, na moeldes