Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysblenydd hirddydd haf. Ac un cysur sydd gennyf, er oered a fo 'r hin yn y wlad oerllwm yma, na bydd arnaf ddim diffyg am danwydd; oblegid y mae eisoes gennyf ddau lwyth certwyn o lo a roed imi gan rai o'm plwyfolion; ac o ddeutu Gwyl Fihangel fe fydd coal-pence plant yr ysgol yn dyfod i mi, yr hyn a fydd fwy na digon i'm bwrw tros y flwyddyn; ac, ysgatfydd, mi gaf beth arian i'w pocedu, o herwydd fod rhifedi'r llanciau yn nghylch tri ugain neu ddeg a thri ugain; a phob un ei swllt a fyddent arferol o dalu. Os digwydd i chwi fod yn gydnabyddus â neb cyfrifol yn y wlad yna, a ewyllysiai yrru ei blentyn i'r ysgol i Loegr er mwyn dysgu Saesneg, byddwch mor fwyned a'i gyfarwyddo yma. Gadewch wybod, yn y nesaf, pa ramser o'r flwyddyn y bydd y cig moch a'r ymenyn rataf yn Mon.

At William Morris, Medi 5ed, 1753

NID oes dim chwareu ffwl pan welir y Person unwaith yn dechreu geran. Chwi welwch eraill yn picio i'r lle cyn i'r gwaed fferu yn y gwythi. And I wish anyone that prescribed me confidence and assurance" instead of "mo- desty," &c., would give me a good example by taking a dose himself. Mae'r lle arall yn llaw yr esgob, a mil i un pwy bynnag a'i caffo, nn theifli fyny rywbeth salach.

Am yr Ysgol nis gwn yn iawn pa beth i'w ddywedyd. Pe gwyddwn yn sicr mai yma y gorfydd i mi aros, fe fyddai wiw gennyf gymeryd poen. Ond y mae Mr. Van yn tyngu ac yn rhegu, ac yn crach boeri (chwedl y bobl), na chaf aros yma un flwyddyn ychwaneg.