Os bydd ar neb awydd i yrru plentyn yma, y pris yw deuddeg punt yn y flwyddyn a'i ddysg am ddim; a llai na hynny a'm rhydd mewn colled.
At Richard Morris, Rhag. 17. 1753
FE fu 'n ddrwg anaele gennyf na allaswn yrru y cywyddau a'r nodau arnynt atoch yn gynt, ond bod achos da i'm rhwystro, yr hwn na feddyliaswn o'r blaen ddim am dano. Yr wyf yn cofio grybwyll o honof gynt wrthych, nad oedd ysgrifennu nodau ar y ddau gywydd amgen na gwaith dwy awr neu dair o amser; ond, Duw yn fy rhan, camgyfri o'r mwyaf oedd hynny. Nid gwaith dwy neu dair o oriau ydoedd darllen Homer a Virgil trostynt; a hynny a orfu arnaf wneuthur, heb fod mo 'r llawer gwell er fy ngwaith. Ni choeliai 'ch calon byth leied oedd yno i'w gael tuag at nodau na dim arall. Meddwl yr oeddwn nad oedd neb a ddichon ysgrifennu dim mewn prydyddiaeth, na chaed rhyw gyffelybiaeth iddo yn y ddau fardd godidog hynny; ac felly yr oeddwn yn disgwyl cael rhyw fyrdd o debygleoedd o honynt, yn enwedig o Homer, i addurno fy mhapuryn. Ond och fi! erbyn rhoi tro neu ddau ymysg penaethiaid y Groegiaid beilchion, a chlywed yr ymddiddanion oedd arferedig, gan amlaf, yn mysg y rhai campusaf o honynt, hyd yn oed ródas кùs ei hun, ac Agamemnon, ac Ulysses, a llawer arwr milwraidd arall, mi ddyallais yn y man. nad oedd un o honynt yn meddwl unwaith am ddim o'r fath beth a Dydd y Farn; ac felly ni wnai ddim ar a ddy-