Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf II.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae rhai o'i deulu eto 'n byw yng nghartref diwedd ei oes. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Chicago, ym Medi, 1893, yr oedd un o'i ddisgynyddion, o'r un enw, yn yr wyl.

Cyhoeddwyd peth o'i waith pan oedd ef yn Amerig gan Hugh Jones o Langwm yn y "Dedwyddwch Teuluaidd," 1763. Yn raddol daeth ei holl farddoniaeth i'r golwg yng Nghorff y Gainc" Dafydd Ddu Eryri yn 1810; yn yr ail argraffiad o'r "Diddanwch Teuluaidd yn 1817; yn "Gronoviana" John Jones o Lanrwst yn 1860; yn "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his life and correspondence," gan y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, yn 1876; ac yn "Holl Waith Barddonol Goronwy Owen," gyhoeddwyd tua'r un pryd, gan Llyfrbryf.

O dipyn i beth daeth darnau o lythyrau Goronwy Owen i'r amlwg, yn enwedig ei lythyrau at y tri brawd o Bentre Eirianell,—yn y "Greal," y "Cambrian Register," y "Cambro Briton," y "Gwyliedydd," "Gronoviana," ac ail gyfrol y Parch. Robert Jones.

Er hyn i gyd nid yw ei wlad wedi gwneyd hanner cyfiawnder ag awen rymusgain Goronwy Owen, nag a'r meddyliau tarawiadol sydd yn ei lythyrau, fflachiadau athrylith gŵr allasai wneyd llawer dros Fon a Chymru heblaw hiraethu am danynt, pe cawsai gyfle.

Bu ei ddylanwad ar Gymru 'n fawr. Tynnodd sylw oddiwrth gerddi rhyddion esmwyth dechreu'r ddeunawfed ganrif at swyn y Gynghanedd. Anodd peidio meddwl na fydd ei ddesgrifiadau o'r farn, o'r diafol, o dlodi, ac o Fon yn rhan o ystôr meddwl pob llenor Cymreig hyd byth.

OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Medi 1, 1901.